
Cynnal a Chadw Cadwraeth
Oriel Ffotograffau
"Mae swyddogion ac ymddiriedolwyr Capel Mair yn dymuno nodi bod y gwaith paratoi gan y pensaer Barry Williams er mwyn trefnu gwelliannau helaeth i adeiladwaith y capel, y festri a’r tŷ capel wedi bod yn foddhaol dros ben. Gan fod y capel wedi ei gofrestru fel Adeilad Rhestredig Gradd II, rhaid oedd paratoi’r cynlluniau yn drwyadl cyn i adran gynllunio Cyngor Sir Ceredigion eu cymeradwyo. Ar gais swyddogion ac ymddiriedolwyr yr eglwys, bu Barry’n barod ac yn abl iawn i gydweithio gyda swyddogion y cyngor sir a’r adeiladwyr gan sicrhau bod y gwaith gorffenedig yn ddymunol ac yn brawf o’i arbenigedd fel pensaer."
—Y cleient