Amdanom


 

Y blynyddoedd cynnar

Roeddwn i'n gwybod mai gyrfa mewn Pensaernïaeth ac Adeiladu byddai’r yrfa i mi pan aeth fy nhad-cu, contractwr adeiladu, â mi i safle adeiladu i wylio o bell pan oeddwn yn bedair oed! Roedd hyn, wrth gwrs, cyn y protocolau iechyd a diogelwch sydd gennym heddiw! Ar ôl gadael yr ysgol, fel dyn ifanc brwd roeddwn yn awyddus i gael profiad ymarferol ac fe'm cyflogwyd gan swyddfa bensaernïol uchel ei pharch i weithio ar lu o brosiectau domestig a masnachol yng ngorllewin Cymru. Dysgais fy nghrefft yn y ffordd hen ffasiwn, drwy weithio ar 'fyrddau dylunio' i gynllunio a manylu â llaw, Gweithiais gyda chontractwyr ar safle a thrafod cynnydd prosiectau â chleientiaid amrywiol. Yr wyf yn ddiolchgar i'r cwmni hyd heddiw am roi profiadau mor werthfawr i mi ac am eu cefnogaeth a'u hanogaeth i barhau â'm haddysg wrth weithio drostynt.

Symud ymlaen

Roedd goleuadau llachar ein prifddinas a'r posibilrwydd o weithio ar brosiectau ar raddfa fawr yn fy nenu ond roeddwn i'n gwybod bod angen i mi ymrwymo i astudio’n llawn amser er mwyn parhau i ddatblygu. Ar ôl blynyddoedd o weithio'n broffesiynol, es i’r brifysgol, ychydig yn hwyrach na'r mwyafrif, ac roeddwn yn falch iawn o ennill Gradd BSc (Anrh) Dosbarth Cyntaf mewn Technoleg Bensaernïol. Roedd fy ngwaith caled wedi talu ar ei ganfed ac fe fu’r blynyddoedd cynnar o brofiad gwaith ymarferol yn sicr yn rhan allweddol o’r llwyddiant.

Y Bennod Nesaf

Tyfodd fy hyder. Cefais fy nghyflogi gan gwmnïau pensaernïol mawr, nodedig. Ces gyfoeth o gyfleoedd, gan weithio ar brosiectau drudfawr. Gweithiais ar draws y sectorau preswyl, masnachol, hamdden, manwerthu, iechyd ac addysg. Rhoddwyd y ‘byrddau dylunio’ o’r neilltu a chofleidiwyd technolegau newydd.

A heddiw

Croeso i ‘Cynllun Ni Our Design’. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar ein ‘Cynllun Ni’.

Barry Williams,
Technegydd Pensaernïol Siartredig, gŵr, tad, rhedwr a chefnogwr rygbi brwd.