Cynllun.Ni

Gwasanaethau cynllunio pensaernïol a thechnegol wedi’u lleoli yng Nghaerdydd.
Mae dull gweithredu Cwmni Pensaernïol Cynllun.Ni Our.Design yn seiliedig ar sicrhau bod gweledigaeth y cleient yn bosibl yn dechnegol ac yn ymarferol. Nod ‘Cynllun Ni’ yw cyfuno gofynion y cleient â’n harbenigedd pensaernïol, gan ddod â dyluniadau’n fyw.

Gyda'n gilydd, gallwn lwyddo.

Ein Gwasanaethau
Portffolio
Image
 

Ein Dull Gweithredu

Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i'n cleientiaid, gwasanaeth sy’n gydnerth ac yn drylwyr. Er mwyn gwireddu briff y cleient, rydym yn archwilio pob llwybr posibl er mwyn cyflawni’r atebion a’r canlyniadau gorau, gan ystyried yr anghenion o ran y dyluniad a’r gyllideb. Mae gennym enw da o ran datblygu prosiectau, rheoli a chyflawni cynlluniau gofalus a ddatblygir ac y cytunir arnynt ar y cyd. Rydym yn ymgynghori’n gyson trwy gydol y prosesau dylunio ac adeiladu, a dyna yw sail ein llwyddiant.

Dewch i ni siarad am eich prosiect